Mel Manser Photography/Shutterstock
Ar ei ben-blwydd yn 66, lansiodd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gynllun rheoli newydd. Cynllun yw hwn sy’n ceisio ymafael â heriau mwyaf y parc, sef yr argyfyngau natur a hinsawdd. Mae’r cynllun yn cynnwys prosiectau i blannu coed, i amddiffyn rhywogaethau prin a’u cynefinoedd ac i wella ansawdd afonydd.
Ond er gwaetha ymdrechion fideo gan Michael Sheen i dynnu sylw at yr argyfyngau, agwedd arall sydd wedi cipio sylw’r cyhoedd. Oherwydd mae’r parc hefyd wedi dewis defnyddio’r enw Bannau Brycheiniog yn lle “Brecon Beacons”.
Ychydig sydd wedi newid mewn gwirionedd. Dyma’r enw yn y Gymraeg erioed, ers sefydlu’r Parc yn 1957. Y gwahaniaeth yw mai Bannau Brycheiniog yw’r unig enw a gaiff ei ddefnyddio o hyn ymlaen.
Bardd a hynafiaethwr o’r enw John Leland, a fu fyw yn hanner cyntaf yr 16eg ganrif, yw’r cyntaf i gyfeirio’n ysgrifenedig at Fannau Brycheiniog. Aeth Leland ar sawl taith o gwmpas Cymru a Lloegr, gan ysgrifennu nodiadau manwl o’r hyn roedd wedi ei weld, ei glywed a’i ddysgu.
Ar un o’i deithiau, aeth Leland i fynyddoedd y de, ac mae’n disgrifio Pen-y-Fan yn ei nodiadau. Mae’n nodi bod llawer o “numerous hilles” ger Pen-y-Fan, a gyda’i gilydd eu bod nhw’n dwyn yr enw “Banne Brekeniauc”.
Edd Mitchell/Shutterstock
Bannau yw lluosog “ban”, sef copa neu bigyn. Roedd yn gyffredin fel enw ar fynydd. Yn wir, gwelwn sawl ban yn y parc cenedlaethol o hyd, gan gynnwys Pen-y-Fan, Fan Fawr a Fan Hir. Tua chyfnod John Leland, rydym yn aml yn gweld cyfeiriadau at Y Fan (mynydd unigol) a’r Bannau (casgliad o fynyddoedd). Cyffredin yw’r enwau, ond mae hello’n anodd gwybod mewn nifer o achosion pa fynyddoedd sy’n cael eu disgrifio yn union.
Barddoniaeth
Trown at waith y beirdd am enghreifftiau. Yn y 15fed ganrif, aeth bardd o’r enw Ieuan Llawdden ati i foli Brycheiniog, ei afonydd, ei choed, ei seintiau, ei thrigolion, a’i mynyddoedd. Mae’r gerdd yn cwmpasu’r ardal “O’r Fan hyd ar Y Fenni”.
Yn yr 16eg ganrif, mewn marwnad, mae’r bardd Lewys Morgannwg yn canu bod pob man yn drist, “o Hafren i’r Bannau”.
Ceir cyfeiriad at “tu yma i’r Banne” mewn cerdd gan fardd o’r enw Y Nant yn y 15fed ganrif. Does dim modd gwybod beth oedd enw go iawn y bardd hwn, na dim byd amdano chwaith, ond mae cyfeiriadau niferus at bobl ac ardaloedd Brycheiniog yn ei gerddi.
Beirdd oedd y rhain wrth gwrs, nid cartograffwyr; llunio cerddi ‘roedden nhw, nid creu mapiau. Doedd dim disgwyl iddyn nhw ddisgrifio union leoliad pob enw. Ond mae traddodiad amlwg o gyfeirio at fynyddoedd Brycheiniog fel “Y Bannau”, traddodiad sy’n ymestyn i’r 15fed ganrif o leiaf.
Teyrnas Ganoloesol
Roedd Brycheiniog yn deyrnas ganoloesol yn ne-ddwyrain Cymru. Roedd yn gyffredin ychwanegu’r ôl-ddodiad -iog neu -ion at enw personol er mwyn dynodi “pobl”, “disgynyddion”, neu “tir”. Dyma yw arwyddocâd Ceredigion, sef yr enw personol Ceredig gyda’r ôl-ddodiad -ion. Hefyd Brycheiniog, sef yr enw personol Brychan gyda’r ôl-ddodiad -iog.
Roedd Brychan yn frenin yn y 5ed neu’r 6ed ganrif, yn ôl y chwedlau. Roedd wedi dod i Gymru o Iwerddon ac yn dad i ddegau o blant, a llawer ohonynt yn seintiau, gan gynnwys Santes Dwynwen.
robertharding/Shutterstock
Mae’n rhaid pwysleisio mai chwedlau diweddarach yw’r rhain. Dydyn ni ddim yn gwybod dim byd i sicrwydd am y Brychan hanesyddol. Ond mae tystiolaeth o ddylanwad Gwyddelig ar dir Brycheiniog yn yr oesoedd canol. Mae nifer o gerrig wedi eu cerfio gydag ogham, sef gwyddor a ddefnyddiwyd i ysgrifennu Gwyddeleg, ac yn cynnwys enwau Gwyddeleg.
Yn y 10fed ganrif, adeiladodd Brenin Brycheiniog crannog, sef ynys artiffisial, ar Lyn Syfaddan. Dyma’r unig enghraifft o’r fath grannog canoloesol yng Nghymru, ond maen nhw’n gyffredin iawn yn Iwerddon a’r Alban.
Beth bynnag yw hanes Brychan, felly, mae’n debygol bod cysylltiadau go iawn gydag Iwerddon wedi ysbrydoli’r chwedlau am ei gefndir.
Amddiffyn ac adfer
Mae colli enwau lleoedd Cymraeg yn destun pryder. Mor gynnar â’r 12fed ganrif, roedd Gerallt Gymro yn cwyno bod yr enw Llanddewi Nant Honddu yn cael ei lygru’n Llanthony gan siaradwyr Saesneg.
Yn fwy diweddar, mae sefydliadau megis Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru wedi bod yn gweithio i amddiffyn enwau lleoedd Cymraeg.
Bannau Brycheiniog yw’r ail barc cenedlaethol i ymroi i ddefnyddio’r enw Cymraeg yn unig, yn dilyn penderfyniad tebyg gan Eryri y llynedd. Nid iaith yw’r unig ystyriaeth chwaith. Teimlant fod yr enw Bannau Brycheiniog yn “fwy addas i adlewyrchu y dreftadaeth Gymreig a Chymraeg”.
Yn wyneb yr argyfyngau hinsawdd a natur, mae gennym ni fynydd i’w ddringo i amddiffyn y dreftadaeth gyfoethog hon.
Mae Rebecca Thomas yn gweithio fel awdur preswyl Cymraeg Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (2022/3).