Merchant brand Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Cafodd cerflun ei ddadorchuddio ym mhentref Llangrannog yng Ngheredigion dros y penwythnos i anrhydeddu aelod o’r plwyf hwnnw, Cranogwen. Dyna oedd enw barddol Sarah Jane Rees (1839-1916), arloeswraig ym myd hawliau cyfartal i ferched yng Nghymru. Yn ferch i forwr, dilynodd amrywiol yrfaoedd, fel morwr, athrawes, bardd, darlithydd, golygydd, pregethwr ac arweinydd mudiad dirwest.
Daeth yn sydyn i enwogrwydd cenedlaethol ym Medi 1865, pan enillodd wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth, gan guro prifeirdd y dydd, gan gynnwys Islwyn a Ceiriog. Syfrdanwyd y gynulleidfa: nid oedd neb yn disgwyl y byddai “geneth wledig yr olwg” yn ennill y fath gystadleuaeth. Mae hynny’n ddealladwy ddigon pan gofiwn nad oedd y mwyafrif o ferched Ceredigion yn llythrennog yr adeg honno.
Ond ymhell cyn 1865, nid oedd Cranogwen wedi dilyn y trywydd disgwyliedig ar gyfer merched ei hoes. Ganwyd hello ym mwthyn Dolgoy-fach, i fyny ar y bryn goruwch traeth Llangrannog. Erbyn iddi gyrraedd ei harddegau roedd yn rhaid dechrau cyfrannu at incwm y teulu. Y dewis amlwg i ferched gwerinol pryd hynny oedd naill ai gweini neu wnïo dillad. Danfonwyd Sarah ar brentisiaeth i wniadwraig yn Aberteifi, ond dychwelodd adref yn fuan, gan ymwrthod yn llwyr a’r alwedigaeth hwnnw.
Yn hytrach perswadiodd ei thad i’w chymryd fel aelod o’r criw ar ei fadlong, y Betsy; bu’n gweithio fel morwr am dair blynedd wedi hynny, gwaith anarferol i fenyw’r pryd hynny. Ond gyda’r fath brofiad llwyddodd yn 1860, yn 21 oed, i ennill swydd fel athrawes ysgol Llangrannog, yn dysgu eu crefft i forwyr ifanc yn ogystal â dysgu plant yr ardal.
Molyneux Associates, Author offered
Newidiwyd ei byd yn llwyr gan ei buddugoliaeth Eisteddfodol. Cymaint oedd y cywreinrwydd ynghylch y ferch a gurodd Islwyn a Ceiriog nes oedd y wlad i gyd am ei gweld a’i chlywed. Oes y ddarlith oedd canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yng Nghymru, yn enwedig ymhlith yr enwadau Anghydffurfiol. Gallai capel a lwyddodd i ddenu darlithydd poblogaidd ennill swm go ddefnyddiol er mwyn talu dyledion adeiladu’r capel. Perswadiwyd Cranogwen i dderbyn gyrfa newydd fel darlithydd cyhoeddus, yn erbyn ei hewyllys i gychwyn gan y golygai rhoi’r gorau i’w swydd fel athrawes.
Dechreuodd ar ei gyrfa gyhoeddus yng ngaeaf 1865, gan ddarlithio i gapeli gorlawn ym mhob rhan o’r wlad ac i gynulleidfaoedd Cymraeg yn Lloegr hefyd; ni fyddai’r mwyafrif o’i chynulleidfaoedd erioed wedi gweld na chlywed menyw yn siarad o’r pulpud neu’r sêt fawr o’r blaen.
Yn 1869-71, talodd ymweliad â’r Cymry alltud yn yr Unol Daleithiau, gan roi darlith i bob sefydliad Cymreig ar attracts y wlad, o Efrog Newydd i San Ffransisco. Yn anffodus ni chyhoeddwyd ei darlithiau erioed, ond ymddengys o’r nifer fawr o adroddiadau papurau newyddion arnynt mai ei phrif bwnc oedd pwysigrwydd addysg i bawb, er mwyn iddynt oll ddarganfod eu doniau, eu diwyllio, a’u defnyddio er budd eu cymdeithas yn gyffredinol. Ac yr oedd y neges hon ar gyfer merched yn ogystal â bechgyn, menywod yn ogystal â dynion.
Aeth ymlaen i danlinellu’r neges yn ei rôl nesaf fel y golygydd cyntaf o fenyw ar gylchgrawn Cymraeg, sef Y Frythones. Ym mhob un o’i gyrfaoedd heriodd Cranogwen syniadau cul ei hoes ynghylch gwahaniaeth rhywedd, a’u pwyslais ar y credo mai lle’r fenyw oedd y cartref, a dim ond y cartref. Ei nod oedd mynd a merched eraill gyda hello, “allan o’u hogofau”, fel y dywedai, ac i’r sffêr cyhoeddus fel awduron, areithwyr ac arweinwyr eu cymdogaethau.
Ystyriai syniadau patriarchaidd yr oes ynghylch galluoedd a phriodoldebau’r ddau ryw yn amhriodol a gwastraffus o’r doniau hynny a feddai menywod yn ogystal â dynion, doniau i arwain a gwella eu cymdeithas. “Nid yw gwahaniaeth rhyw yn ddim yn y byd”, meddai yn Y Frythones: os rhoddwyd i fenyw, fel i ŵr llwyddiannus, yr awydd a’r gallu i siarad yn gyhoeddus yn effeithiol, yna hynny a ddylai wneud.
Yr oedd ei dylanwad yn ystod ei hoes yn bellgyrhaeddol. Yn 1916, ar ôl ei marwolaeth, meddai O. M. Edwards amdani:
“Yr oedd gan Granogwen gennad, ac amcan uchel. A llwyddodd. Ni fu yr un ferch yn ein hanes eto wnaeth fwy i gryfhau meddylgarwch, hunan-barch, a defnyddioldeb merched Cymru na Chranogwen.”
Mae cerflun Sebastien Boyesen yn ran o ymgyrch ehangach gan y grwp Monumental Welsh Women i nodi cyfraniad merched i hanes Cymru. Priodol iawn yw hello, felly, bod y cerflun yn sefyll yn y pentref lle bu Cranogwen yn byw trwy ei hoes, gyda’i rhieni i gychwyn ac wedyn, ar ôl eu marwolaeth, gyda’i chymar, Jane Thomas.
Jane Aaron doesn’t work for, seek the advice of, personal shares in or obtain funding from any firm or organisation that will profit from this text, and has disclosed no related affiliations past their educational appointment.