Ganol mis Mehefin, cadarnhawyd Rhun ap Iorwerth yn arweinydd newydd Plaid Cymru. Mae’n olynu Adam Price a ymddiswyddodd yn dilyn adroddiad niweidiol a dynnodd sylw at broblemau difrifol o ran diwylliant mewnol y blaid, yn arbennig aflonyddu rhywiol, bwlio a misogynistiaeth.
Blaenoriaeth ddi-oed, sydd wedi ei chydnabod gan ap Iorwerth wrth ddod i’r swydd, yw gweithredu 82 argymhelliad yn yr adroddiad. Byddai eu gweithredu yn her sylweddol i unrhyw blaid wleidyddol, yn arbennig felly i fudiad sydd ddim yn fawr iawn, na chwaith â llawer o adnoddau.
Mae gofyn i Blaid Cymru weithredu’r rhain ar yr un pryd â pharatoi ar gyfer etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf ac etholiad Senedd Cymru yn 2026. Er mwyn sicrhau enillion yn yr etholiadau hynny, mae gofyn am fwy na diwygio trefnidaethol a blaengynllunio etholiadol trylwyr.
Rhaid i’r blaid hefyd ystyried ei strategaeth etholiadol – yn y blynyddoedd diwethaf prin fu’r cynydd o ran enillion etholiadol. Cadarnhau hyn wnaeth perfformiad y blaid yn etholiad cyffredinol 2019 ac etholiad Senedd Cymru 2021.
Does dim arwydd clir o wella ar eu perfformiad etholiadol yn fuan chwaith. Yr awgrym yn ôl yr arolygon barn ydy taw cyfyngedig fydd unrhyw ennill tir yn yr etholiad cyffredinol nesaf. Gall hello hefyd fod yn anodd cynyddu eu cyfran o seddi yn yr etholiad i’r Senedd ddwy flynedd wedyn.
Annibyniaeth i Gymru
Yn etholiad Senedd 2021, rhoddodd Plaid Cymru sylw blaenllaw iawn i’w galwad am annibyniaeth yn ystod yr ymgyrch, a chyplysu hyn gydag ymrwymiad i gynnal refferendwm o fewn pum mlynedd petai’n dod yn blaid lywodraethol.
Drwy wneud hynny, roedd yn mabwysiadu yr un math o strategaeth â llawer o bleidiau a mudiadau o blaid annibyniaeth ar attracts Ewrop.
Dadansoddodd ein hymchwil ni y galwadau cyfansoddiadol gan y math hwn o fudiad mewn maniffestos, papurau polisi a datganiadau i’r wasg. Y casgliad oedd bod galwadau am annibyniaeth wedi cynyddu, gyda mwy o bwyslais ar gyflwyno achos cadarnhaol dros greu gwladwriaeth newydd.
Ond camfarnodd strategaeth y blaid flaenoriaethau pleidleiswyr Cymru ar y pryd, sef adferiad yn dilyn y pandemig yn hytrach na newid cyfansoddiadol sylweddol. Mae’r heriau yn ymwneud â COVID yn debyg o fod yn llai canolog yn yr etholiad nesaf. Eto’i gyd, lleiafrif o bleidleiswyr sy’n cefnogi annibyniaeth gyda diwygio cyfansoddiadol yn isel ar y rhestr o faterion sy’n bwysig i bobl.
Esiampl yr Alban
Dangosodd methiant ymdrechion Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP) i sicrhau’r hawl gyfreithiol i gynnal refferendwm arall ar annibyniaeth nad oes llwybr hawdd i’r rhai sydd am adael y DG. Gyda’r SNP yn ei chael hello’n anodd amlinellu strategaeth gredadwy ynghylch sut i wireddu annibyniaeth, dim ond ychydig bach o bleidleisiau newydd all y blaid eu sicrhau drwy osod annibynniaeth fel canolbwynt eu hymgyrch etholiadol.
Mae’r arolygon wedi dangos fod llawer o’r rhai sy’n cefnogi annibyniaeth i Gymru hefyd yn pleidleisio dros y Blaid Lafur. Ychydig o dystiolaeth sydd i awgrymu eu bod nhw’n barod i ildio eu teyrngarwch gan gefnogi Plaid Cymru.
I’r gwrthwyneb, mae arolygon barn yn awgrymu bod Llafur Cymru yn debyg o gynyddu eu cyfran o’r bleidlais yn etholiad cyffredinol 2024 ac am gadw eu safle fel y brif blaid yn y Senedd. A hynny er gwaetha’r trafferthion sy’n wynebu Llywodraeth Cymru yn y meysydd sydd o dan ei adain fel y gwasanaeth iechyd.
Gall llawer iawn newid rhwng nawr, blwyddyn nesaf a 2026. Fel pleidiau eraill sydd o blaid annibyniaeth, gan gynnwys yr SNP, mae Plaid Cymru yn hen gyfarwydd â gorfod taro cydbwysedd rhwng y graddau mae’n pwysleisio ei hamcan cyfansoddiadol hir dymor ochr yn ochr â’r sylw a roddir i heriau brys.
Gallai pleidleiswyr golli ffydd yn Llafur Cymru a’i document yn llywodraethu. Wrth gwrs, y tebygrwydd hefyd yw y bydd Llafur Cymru yn ymladd yn yr etholiad nesaf i’r Senedd gydag arweinydd newydd wrth y llyw. Mae Mark Drakeford eisoes wedi cadarnhau ei fwriad i roi’r gorau i’r swydd. Bydd natur yr ornest yn wahanol hefyd wrth i’r diwygiadau i’r Senedd gael eu rhoi ar waith gan gynyddu’r nifer o aelodau o 60 i 96 a chyflwyno system etholiadol newydd.
Roedd newid sut mae’r Senedd yn cael ei hethol yn un o ymrwymiadau’r cytundeb cydweithio rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn 2021. Roedd yn un o nifer o feysydd lle cytunodd y pleidiau i gydweithio heb i Blaid Cymru ddod yn rhan o’r llywodraeth yn ffurfiol dan drefniant clymblaid.
Gobaith Plaid Cymru yw y bydd newidiadau polisi eraill yn sgil y cytundeb yn dangos i bleidleiswyr y gallan nhw ymddiried yn y blaid i lywodraethu dros Gymru ac i wireddu newid radical. Rhai o’r polisïau hyn yw ymestyn prydau am ddim i blant ysgolion cynradd a mesurau newydd i daclo effeithiau ail dai.
O ystyried y newidiadau fydd i’r cyd-destun gwleidyddol erbyn 2026, gallai’r blaid fod mewn sefyllfa fanteisiol i hawlio’r safle fel y blaid i Gymru. Mae heriau trefniadaethol a strategol sylweddol yn ei hwynebu, ac mae gofyn gweithredu’n gyflym i ymateb iddynt.
O ran natur gwleidyddiaeth Cymru ar hyn o bryd, hyd yn oed pe byddai’r blaid yn datrys yr heriau hynny, mae’n ansicr a fyddai’n gallu dwyn perswâd ar bleidleiswyr Cymru i roi diwedd ar hegemoni etholiadol Llafur Cymru, gan gynnwys ei theyrnasiad ar y lefel ddatganoledig ers 1999. Wrth i Rhun ap Iorwerth arwain Plaid Cymru i gyfeiriad y sialens etholiadol honno, mae’n wynebu her sy’n unigryw ymysg pleidiau o blaid annibyniaeth yn Ewrop.
Anwen Elias receives funding from the Economic and Social Research Council.
Elin Royles receives funding from the Economic and Social Research Council. The analysis informing this text was funded by European Union Horizon 2020 funding.